Effaith
2019-2023: Y Stori Hyd Yma…
2019-2023: Y Stori Hyd Yma…
2019-2023: Y Stori Hyd Yma…
Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu wedi bod yn rhedeg ers 2018, a hyd yma mae wedi arwain at 1.4 biliwn ychwanegol o ddognau llysiau plant yn cael eu gwerthu yn y sector manwerthu. Gyda 59% o blant yn y rhaglen ysgolion yn dweud ei fod yn gwneud llysiau’n fwy o hwyl ac 83% o ysgolion yn dweud ei fod yn fwy poblogaidd na mentrau bwyta’n iach eraill, mae hon yn ymgyrch sydd wir yn cyflawni ei haddewid i wneud bwyta llysiau yn fwy o hwyl i blant!
Ein gwobrau
O ystafell gyfarfod i ystafell ddosbarth, llywodraeth ganolog i grwpiau cymunedol lleol, mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn gynghrair amrywiol sydd wedi’i huno gan nod cyffredin. Daw ein llwyddiant o’r miloedd o ysgolion, athrawon, arlwywyr, gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, cogyddion, ymgyrchwyr a’r rhai sy’n hoff o lysiau sy’n ein cefnogi ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn ysgolion a chymunedau ac i’r miliynau o rieni a phlant sy’n bwyta’r holl lysiau hyfryd hynny. Mae hwn yn un ymdrech tîm mawr, a gyda’i gilydd mae’r tîm hwn wedi cael ei gydnabod gyda’r holl wobrau hyn.
Dilynwch ni