Skip to content

YN GALW YR HOLL DEULUOEDD

Gwyliwch ein fideo

YN GALW YR HOLL DEULUOEDD

Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn annog plant i fwyta mwy o lysiau. Mae’n ymgyrch wobrwyedig sydd wedi profi i wneud bwyta llysiau yn fwy o hwyl. Y bwriad yw i helpu chi i fagu plant iachus a hapus.

Dyw 80% o blant ddim yn bwyta digon o lysiau. Os ydych chi’n poeni am hwyliau, ymddygiad neu dysgu eich plant, mae deiet yn lle da i ddechrau.

Cafodd Bwytewch y Llysiau i’w Llethu ei greu gan Veg Power ac ITV fel ffordd hwyl i annog plant i fwyta mwy o lysiau. Mae ymgyrch hysbysebu fawr, gweithgareddau mewn miloedd o ysgolion a gwefan llawn cymorth, haciau a hwyl i helpu chi lwyddo.

Fe wnaeth dros miliwn o blant gymryd rhan llynedd. Dywedodd dros hanner o rieni bod eu plant wedi bwyta mwy o lysiau o ganlyniad. Roedd hyd yn oed 35% o rieni gyda plant nad oedd yn bwyta bron dim llysiau, wedi dweud bod eu plant wedi bwyta mwy o lysiau diolch i Bwytewch y Llysiau i’w Llethu – gall weithio i chi!

SUT MAE'N GWEITHIO

Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn gweithio gan ei fod yn gwneud llysiau yn hwyl. Mae’r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan hysbysebu teledu gwerth £3m sy’n cyffroi’r plant am lysiau. Mae miloedd o ysgolion ar draws Prydain yn defnyddio’r cyffro yna i annog plant i drio mwy o lysiau. Edrychwch allan am sticeri. Os yw eich ysgol yn cymryd rhan byddant yn anfon siart wobrwyo adref i helpu chi droi yr ymddygiad yn un tymor hir – os ddim gallwch lawrlwytho’r siart isod.

Cael trafferth annog eich plant i fwyta llysiau…

Pump awgrym i annog eich plant i fwyta mwy o lysiau!

gan Rebecca Stevens, Maethegydd Cofrestredig gyda Veg Power

Er ein bod i gyd yn gwybod bod llysiau yn rhan bwysig o ddeiet iach ac ecogyfeillgar, gall fod yn her fawr i gael plant i fwyta mwy ohonynt. Dangosodd arolwg diweddar fod dros hanner y rhieni yn dweud eu bod yn cael trafferth. Dyma fy mhum awgrym gorau i’ch helpu i ddechrau ond edrychwch ar www.simplyveg.org.uk am ragor o wybodaeth.

Byddwch yn ddylanwad da

mae plant yn dysgu o arsylwi’r oedolion yn eu bywyd.  Drwy gynnwys llysiau gyda’ch prydau, byddwch yn dangos bod bwyta llysiau yn rhan arferol o amser bwyd. Siaradwch yn bositif am lysiau trwy’r hyd yn oed y rhai nad ydych chi’n hoff ohono!

Deall dewisiadau eich plentyn

fel oedolion, mae gan blant eu dewisiadau naturiol eu hunain. Mae’n well gan rai flasau melys, tra bod eraill yn mwynhau blasau chwerw. Mae rhai yn caru gwead crensiog tra bod yn well gan eraill fwydydd meddal, wedi’u coginio. Os gallwch ddechrau deall hoffterau eich plentyn eich hun a gweini llysiau sy’n fwy deniadol iddynt, rydych chi ar eich ennill.

Ymgysylltu â’r plentyn

weithiau mae angen ychydig mwy o anogaeth ar blant ac, yn yr achos hwn, ceisiwch ymgysylltu â nhw ar y pwnc o lysiau fel man cychwyn. Dewiswch weithgaredd hwyliog ac ychwanegwch thema llysiau (e.e. celf, crefftau, chwarae rôl) neu gofynnwch iddynt ddewis llysiau o’u dewis y tro nesaf y byddwch yn siopa – edrychwch ar ein gwefan am syniadau eraill.

Ewch â nhw i'r gegin

mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n chwarae rhan mewn paratoi bwyd yn fwy tebygol o’i fwyta. Dewiswch rôl sy’n briodol i’r oedran – e.e. torri, troi, gosod y bwrdd, dylunio bwydlenni – ac annog y plentynl i gymryd rhan.

Peidiwch â chynhyrfu

gall hyn fod yn hynod o anodd ar adegau ond bydd plant yn sylwi ar eich straen, felly ceisiwch gadw mor dawel â phosibl. Cofiwch y bydd rhai plant yn arafach nag eraill i dderbyn a mwynhau llysiau ond fe fyddant yn cyrraedd yna yn y diwedd.