Skip to content

Ysgolion

Gwyliwch ein fideo

Ysgolion

Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu wedi gorffen ar gyfer eleni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi gyd flwyddyn nesa’!

Mae’r ymgyrch gwobrwyedig Bwytewch y Llysiau i’w Llethu a’r rhaglen ysgolion cysylltiedig wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gydag ymgyrch 2022 wedi cyrraedd dros 1 miliwn o blant mewn 3,850 o ysgolion cynradd ac arbennig. Dywedodd 57% o’r rhieni gymrodd ran fod eu plant wedi bwyta mwy o lysiau, gan gynnwys dros draean o fwytawyr ffyslyd sy’n anaml yn bwyta unrhyw lysiau o gwbl.

Mae’r ymgyrch a rhaglen ysgolion yn ôl! Edrychwch ar yr adnoddau sydd ar gael i fod o gymorth i’ch ysgol

Y thema creadigol eleni yw “mae’r llysiau yn cymryd dros y byd” sy’n cynnwys ryseitiau, cynlluniau gwersi ac adnoddau i ddathlu amrywiaeth gwych bwyd y byd yn ein ysgolion a chartrefi eich teuluoedd. Gobeithio gewch chi hwyl gydag e.

1

Siart Wobrwyo

Mae siartiau gwobrwyo yn helpu rhieni a gofalwyr i annog arferion cadarnhaol – fel bwyta brocoli. I gael y gorau o’r siartiau hyn, argraffwch nhw a’u hanfon adref gyda phob plentyn a defnyddiwch eich sianeli digidol i gyfeirio rhieni at y wefan hon am ragor o wybodaeth.

2

Cynlluniau gwersi

I gefnogi’r ymgyrch yn y dosbarth rydym wedi creu cyfres o wersi ar gyfer athrawon i’w dysgu yn y dosbarth. Mae modd eu haddasu o ddosbarth derbyn i flwyddyn 4, gyda’r thema “Archwilio bwyd o ar draws y byd”.

3

Pecyn asedau

Oes angen asedau dylunio arnoch i greu eich cynlluniau gwersi eich hun, hysbysiadau, crysau-t, posteri, adroddiadau ac ati? Cliciwch yma i weld ffolder yn llawn lluniau, ffontiau, lliwiau, cefndiroedd a mwy.