Skip to content
Veg Power UK in Lambeth School in London, UK 03 March 2023

ADNODDAU I YSGOLION

Annog plant i ymwneud a chwarae gyda llysiau yw’r cam cyntaf i ddatblygu perthynas dda gyda bwyta’n iach.

Mae’r thema greadigol eleni i gyd am gael hwyl gyda llysiau. Byddwn yn annog y plant i grenshio’r llysiau un cnoad mawr ar y tro, ac rydym yn paratoi deunyddiau gweledol sy’n llawer o sbort.

Mae gennym gynlluniau gwersi, prosiectau crefft a llawer mwy i gefnogi’r ysgolion eleni…

Am adnoddau Saesneg cliciwch yma.

Siart Wobrwyo

Mae siartiau gwobrwyo yn helpu rhieni a gofalwyr i annog ymddygiad bositif – fel bwyta brocoli. Os nad ydych wedi derbyn copi caled o’r siart wobrwyo, yna gallwch chi argraffu hwn a’i anfon adref gyda pob plentyn neu ei ddefnyddio yn y dosbarth. Gall y plant liwio wrth iddyn nhw fynd ac ychwanegu sticeri seren os oes ganddyn nhw rai.

Dyluniwch asedau eich hunan

dych chi angen asedau dylunio i greu cynlluniau gwersi, hysbysiadau, crysau-t, posteri, adroddiadau ayyb? Cliciwch yma i gael mynediad i ffolder sy’n llawn lluniau, ffontiau, lliwiau, cefndiroedd a mwy.

CELF & CHREFFT

Mae celf a chrefft yn ffordd wych o gysylltu plant gyda llysiau. Mae gennym masgiau gwyneb, coron a llysiau i’w torri a’u lliwio.

Posteri

Dyma ein casgliad eang o bosteri sydd ar gael i lawrlwytho ac argraffu.

TEMPLED PWYNT PWER

Eisiau creu sleidiau Bwytewch y Llysiau iโ€™w Llethu eich hunan? Dyma dempled ddwyieithog i chi.

ADDYSG SYNHWYRAIDD

Mae addysg synhwyraidd yn ffordd wych o ddysgu plant nid yn unig am ddefnyddio synhwyrau i archwilio llysiau ond annog plant i’w blasu nhw hefyd. Mae gennym gynllun gwers ddwyieithog a taflenni gwaith gan ein ffrindiau yn TastEd.

Llysiau o amgylch y byd – cynlluniau gwersi

I gefnogi’r ymgyrch yn yr ystafell ddosbarth rydym wedi creu cyfres o gynlluniau gwersi sy’n cyd-fynd รข’r maes llafur ac yn addas i athrawon, ac mae modd eu addasu o’r Derbyn i Flwyddyn 4, gyda’r thema “Archwilio llysiau o amgylch y byd”