Skip to content
tbc-header

Llond Ceg!

Y thema ar gyfer Bwytewch y Llysiau i’w Llethu eleni yw Llond Ceg…

Y thema ar gyfer Bwytewch y Llysiau i’w Llethu eleni yw

Mae Llond Ceg i gyd am wneud bwyta llysiau yn hwyl.

Mae hwyl wrth galon Bwytewch y Llysiau i’w Llethu – i blant mae hwyl yn allweddol ar gyfer dewisiadau a mwynhad bwyd.

Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn gêm, yn stori, yn jôc. Mae’r plant yn gwybod nad yw’r llysiau yn ddrwg neu’n cymryd drosto’r byd. Ac yn fwy na hynny, maent yn gwybod ei fod yn ffordd o gael nhw i fwyta mwy o lysiau… ond mae’n ddoniol, annisgwyl ac felly mae nhw’n mynd amdani a thrio y llysiau, yna trio eto ac eto, a chyn hir mae’n dod yn beth cyffredin.

Rhan hanfodol o’n llwyddiant yw rhoi’r plant a’u rhieni, gofalwyr ac oedolion dylanwadol eraill ar yr un ochr. Yn rhy aml mae llysiau yn rhan o frwydr rhwng plentyn a gofalwr. Mae’n rhaid i ni dorri’r cylch yma.

Dyma lle mae Llond Ceg yn chwarae rhan. Mae Llond Ceg yn her i fwyta llysiau yn y ffordd mwya hwyliog a gwirion. Gall hwn edrych fel cnoi fel cwngingen cyflym ar seleri neu foron, hwfro rhes o bys neu brathu llond pen o frocoli.

Dyma her i chi oedolion…

Mae angen i chi ymuno ac arwain y ffordd. Dangoswch i’r plant y brathiadau gorau ac anogwch nhw i wneud yr un peth. Gallwch chi droi byrbryd llysiau amrwd ar ôl ysgol mewn i gêm, gwnewch e’n hwyl gan weiddi i’r gâd:

“Ni’n bwyta’r llysiau i’w llethu!”

“Mae’n amser crenshio!”

“Dyma dy ddiwedd di, pys!”

“Hasta las vista brocoli!”

Ar ôl i’r plentyn lowncio’r llysieuyn, peidiwch anghofio rhoi sticyr ar eu siart gwobrwyo a dangos pa mor hapus mae’n eich gwneud chi gan roi canmoliaeth. A chofiwch mae ond yn cymryd rhai munudau i glirio llanast ond mae atgofion hapus ac arferion bwyta da yn dueddol o aros am byth.

Beth am gychwyn trwy wylio ein fideo gyda’ch gilydd, a rhannu eich buddugoliaethau ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #BwytewchYLlysiau

Amdani i grenshio!