Skip to content
John Donne School assembly ETTDT

Gwasanaeth

Defnyddiwch y gwasanaeth lansio i roi gwybod i’r disgyblion beth sydd ar y gweill.

Beth am gychwyn y rhaglen yn eich ysgol gyda gwasanaeth? Mae gennym wasanaeth, gyda Pwynt Pŵer a fideo wedi ei greu gan brifathro gwobrwyedig ac arbenigwr addysg bwyd Dr Jason O’Rourke PHD o Academi Washingborough, Swydd Lincoln.

Isod allwch chi lawrlwytho ein cynllun gwasanaeth a Pwynt Pŵer – mae modd addasu’r ddau i gyd fynd â’ch cynlluniau. Ceir hefyd fersiwn i’w lawrlwytho o’r hysbyseb teledu bydd y plant yn ei weld yn y cyfnod cyn y rhaglen ysgolion. Yn olaf, bydd fideo gan ein cogydd ysgol gwirion. Mae’r adnoddau i gyd ar gael yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Nodwch mai isdeitlau Cymraeg fydd ar y fideo.

Dechrau 20 Chwefror – Gorffen 22 Mawrth

Canllaw Gwasanaeth

Thema ein gwasanaeth eleni yw archwilio synhwyrau cyffwrdd a defnyddio geiriau disgrifio neu gall gael ei ddefnyddio ar gyfer lawnsio Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn yr ysgol.

Taniwch y Pwynt Pwer!

Lawrlwythwch a newidiwch ein cyflwyniad Pwynt Pwer i fod yn addas i chi. Mae’r cyflwyniad yma yn cynnwys fideo’r ymgyrch.

Fideo Llond Ceg

Dyma fideo thema 2024. Mae’r fideo yma yn y Pwynt Pwer neu mae modd ei wylio neu ei lawrlwytho yma.